Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach yn Gyflymach
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - GOHIRIWYD TAN 11 GORFFENNAF 2023
(0 munud)
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yn y Canolbarth
(30 munud)
7 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Sectorau Technoleg a Seiber
(30 munud)
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM8285 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8284 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin 2023.
8 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
(15 munud)
NNDM8284 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
NNDM8287 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM8286 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Mehefin.
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
(30 munud)
NNDM8286 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a nodir yn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 5, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
https://bills.parliament.uk/bills/3340 (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Llythyr
gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 16 Mai
2023
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 2 Mehefin
2023
10 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mehefin 2023